Gabriel García Márquez

Awdur, sgriptiwr a newyddiadurwr yn enedigol o Colombia oedd Gabriel José de la Concordia García Márquez, yn ysgrifennu fel Gabriel García Márquez (ganed 6 Mawrth 192717 Ebrill 2014). Ystyrir ef yn un o brif awduron yr 20g yn yr iaith Sbaeneg.

Ganed ef yn Aracataca, yn rhanbarth Magdalena, yn fab i Gabriel Eligio García a Luisa Santiaga Márquez. Priododd Mercedes Barcha ym 1958. Derbyniodd Wobr Ryngwladol Neustadt am Lenyddiaeth yn 1972 a rhoddwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo yn 1982.

Addysgodd ei hun ac o ganlyniad peidiodd ag astudio'r gyfraith a dechreuodd weithio fel newyddiadurwr. Bu'n barod iawn i feirniadu gwleidyddion Colymbaidd a thramor. Yn 1958 priododd Mercedes Barcha; cawsant ddau o feibion, Rodrigo and Gonzalo. Mae García Márquez yn adnabyddus am boblogeiddio'r arddull 'Realaeth Hudol' (magic realism), sydd yn defnyddio elfennau hudol yn ochr ac ochr â sefyllfaoedd pob dydd. Lleolir rhai o'i weithiau ym mhentref dychmygol Macondo (wedi'i ysbrydol gan ei dref enedigol Aracataca). Mae llawer o'i lyfrau hefyd yn archwilio'r thema o unigrwydd.

Disgrifiodd Pablo Neruda ei lyfr ''Cien años de soledad (Can Mlyedd o Unigrwydd)'' fel "y mwyaf arwyddocal yn yr iaith Sbaeneg ers ''Don Quijote''" (gan Miguel de Cervantes, 1547–1616).

Pan fu farw yn 2014 dywedodd lywydd Colombia ei fod y 'Colombianwr mwyaf mewn hanes'. Darparwyd gan Wikipedia
1
Llyfr
2
Llyfr
3
Llyfr
4
Llyfr
5
Llyfr
7
Llyfr
8
Awduron Eraill: ...García Márquez, Gabriel, 1927-2014....
Llyfr
9
Llyfr
10
Llyfr
11
12
Llyfr
13
Llyfr
16
Llyfr
17
Llyfr
18
Llyfr
19
Awduron Eraill: ...García Márquez, Gabriel, 1927-2014....
Llyfr
20
Llyfr